P-04-413
: Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon
Geiriad y
ddeiseb
Rydym
ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru
i adfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Cynon, drwy gwblhau
canolfan eni Tair Afon, fel y’i cynlluniwyd yn wreiddiol yn
Ysbyty Cwm Cynon.
Gwybodaeth
ategol:
Cafodd
Ysbyty Cwm Cynon ei gynllunio gyda lle i ganolfan eni dan arweiniad
bydwragedd. Er bod y lle ar gael yn yr ysbyty a bod llawer
o’r gwaith wedi’i gwblhau, gwnaed y penderfyniad i
beidio â chael y ganolfan eni. O ganlyniad i hyn, rhaid
i fenywod Cwm Cynon deithio i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym
Merthyr Tudful neu ddewis geni eu plant gartref. Mae tynnu’r
gwasanaethau hyn oddi ar bobl Cwm Cynon yn annerbyniol.
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Nifer y
llofnodion:406